Fy ymroddiad i chi:
‘Rwyf bob tro’n ymdrechu i gwblhau cyfieithiadau gloyw o’r radd flaenaf a hynny ar amser. ‘Rwy’n sicrhau hyn trwy gadw at gôd ymarweddiad y Chartered Institute of Linguists yn ogystal â chadw at air y fenter ‘Quality in Translation’.
- ‘Rwy’n ymdrechu i greu’r cyfieithad gorau posib, bob amser.
- ‘Rwyf ond yn derbyn gwaith sy’n sicrhau hyn.
- ‘Rwyf ond yn cyfieithu i’r Saesneg a’r Gymraeg, fy ieithoedd brodorol.
- ‘Rwyf ond yn cyfieithu testunau yn fy meysydd arbenigol.
- ‘Rwyf wastad yn anelu at ddatblygu yn broffesiynol trwy dderbyn adborth adeiladol ac hyfforddiant parhaol.
Fel rhywun sy’n gweithio ar ei liwt ei hun, fe fyddwch yn cyfathrebu yn uniongyrchol â mi heb orfod trafferthu mynd trwy ganolwr. Un o brif fanteision hyn yw fy mod yn gallu ateb eich ebost yn gyflym a hefyd yn medru gweithio y tu allan i oriau gwaith gan gynnwys penwythnosau os oes angen.
Dyfynbris am ddim